ERDF Logo Regional Funding Fair 2008ESF Logo

Dydd Mawrth 8fed Mehefin 2010

Digwyddiad ar agor rhwng 10am a 4.30pm

Cwrs Rasio Ffos Las, Caerfyrddin

 

Croeso i’r Dudalen Gartref ar gyfer Ffair Gyllid Ranbarthol 2010

Yn dilyn llwyddiant Ffair Ffynonellau Cyllid y De-orllewin yn 2008, mae'r Awdurdodau Lleol, y Sector Gwirfoddol, a Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy gyfrwng y Timau Ewropeaidd Gofodol sy'n gweithio yn y De-orllewin, wedi dod at ei gilydd i gynnal digwyddiad 2010.

Mae'r Ffair Ffynonellau Cyllid Ranbarthol yn gyfle i'r holl gyrff a busnesau ddod i weld pa gymorth a chyfleoedd sydd ar gael yn rhanbarth y De-orllewin, drwy Raglen Gydgyfeirio yr Undeb Ewropeaidd, ac o ffynonellau eraill. Eleni mae'r digwyddiad yn rhoi sylw i'r rôl hollbwysig sydd gan elusennau, grwpiau cymunedol, a chyrff gwirfoddol o ran adfywio ein rhanbarth yn ffisegol, yn gymdeithasol, ac yn economaidd. Mae'n hanfodol bod cyrff cyhoeddus, cyrff preifat, a chyrff y trydydd sector yn cydweithio i sicrhau bod cynifer o fanteision â phosibl yn y De-orllewin, nid yn unig o ran hyrwyddo'r ffynonellau cyllid sydd ar gael, ond hefyd o ran cyfleoedd hyfforddiant, caffael, a gweithredu.

Arddangoswyr
Os yw eich corff yn rhoi cefnogaeth neu gymorth i grwpiau gwirfoddol, elusennau, grwpiau cymunedol, neu fusnesau sy'n gweithio yn y meysydd hyn, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle ichi ddangos y math o gymorth y gallwch ei ddarparu. 

Y bobl fydd yn bresennol
Os yw eich corff chi ymhlith y rhai a grybwyllir uchod, mae'r digwyddiad hwn yn un hollbwysig ichi.  Bydd yn eich galluogi i ennill gwell dealltwriaeth o'r mathau o gymorth a'r cyfleoedd caffael a hyfforddiant  sydd ar gael, a hynny nid yn unig gan fentrau rhanbarthol, ond gan brosiectau strategol cenedlaethol allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, y bwriedir iddynt gael eu gweithredu a chael effaith ar lefel leol.

Bydd y cyllidwyr Cenedlaethol a Rhanbarthol hyn, yn ogystal â chyrff eraill, ar gael i drafod anghenion cyllido ac i helpu grwpiau i ddatblygu eu syniadau. Bydd profiadau uniongyrchol unigolion a grwpiau sydd wedi bod yn rhan o brosiectau llwyddiannus ym mhob rhan o’r rhanbarth yn cael eu trafod, a bydd seminarau sy’n seiliedig ar thema cynaliadwyedd yn cael eu cynnal drwy’r dydd.
Rydym yn sicr y byddwch yn mwynhau’r digwyddiad ac y bydd yn rhoi llawer o wybodaeth ichi. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Tîm y Ffair Ffynonellau Cyllid Ranbarthol 2010

Cliciwch yma i is-lwytho taflen

Cliciwch yma i is-lwytho murlen