Dydd Iau 6ed Mawrth 2008
Ar agor rhwng 10am a 7pm
Maes Sioe y Siroedd Unedig, Nant-y-ci, Caerfyrddin
Croeso i Hafan Ffair Gyllid Ranbarthol 2008
Rydym wrth ein bodd yn cynnal Ffair Ffynonellau Cyllid 2008. Y ffair hon
fydd y cyntaf o'i math yn yr ardal ac mae'n cael ei chynnal gan bartneriaeth
newydd rhwng awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol ar gyfer rhanbarth De-orllewin
Cymru.
Mae elusennau, grwpiau cymunedol a chyrff gwirfoddol yn rhan hollbwysig
o adfywio ein rhanbarth yn ffisegol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae'r
bartneriaeth sy'n trefnu'r ffair yn cydnabod gwaith gwerthfawr cyrff y trydydd
sector ac mae'n cynnal y digwyddiad yn rhad ac am ddim i roi gwybodaeth
a chyngor i grwpiau fel y gallant gynllunio at y dyfodol.
Bydd cyllidwyr cenedlaethol a rhanbarthol, ynghyd â chyrff eraill,
i gyd wrth law i drafod anghenion cyllido ac i helpu grwpiau i ddatblygu
eu syniadau. Bydd trafodaeth ynghylch profiadau unigolion a grwpiau sydd
wedi bod yn rhan o brosiectau llwyddiannus yn y rhanbarth a bydd seminarau
ar thema cynaliadwyedd yn cael eu cynnal drwy'r dydd.
Rydym yn sicr y byddwch yn mwynhau'r ffair ac y bydd yn llawn gwybodaeth.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.
Tîm Ffair Gyllid Ranbarthol 2008
