ERDF Logo Regional Funding Fair 2008ESF Logo

Gweithdai

Pub is the Hub                    12 hanner dydd a 2.45pm    Ystafell 4

"Mae cymunedau cefn gwlad ac arferion gwledig y wlad hon yn wynebu sialensiau digynsail ... mae’r dafarn wledig sydd wedi bod wrth galon bywyd y pentref am ganrifoedd lawer yn diflannu mewn sawl ardal. Byddai darparu gwasanaethau yn y dafarn, megis swyddfa bost neu siop yn cadw gwasanaeth hanfodol yn y pentref."  EUB Tywysog Cymru.

Mae Pub is the Hub yn annog tafarnwyr, dalwyr trwydded a’u cymunedau lleol  i gydweithio i gynnal, cadw a darparu lleoliad ar gyfer gwasanaethau lleol mewn tafarn lle bo hynny’n bosib. Yn aml mae hyn hefyd yn gwella hyfywedd y dafarn ei hun. Gall Pub is the Hub roi cyfarwyddyd ynghylch y cyllid sydd ar gael yn lleol a rhanbarthol ar gyfer prosiectau ac mae ei ddealltwriaeth drylwyr o’r busnes tafarnau yn golygu y gall roi cyngor ynghylch y ffordd orau ymlaen ar gyfer pob prosiect unigol.

John Pepin – Sharing Without Merging – O fudd neu’n wastraff amser?

12 hanner dydd a 2.45pm                Ystafell 2

Mae cydweithredu effeithiol yn arbed arian, yn codi safonau, yn arwain at gynnydd yn nifer y cleientiaid a wasanaethir ac yn hyrwyddo cyfranogiad llwyddiannus ym mhrosesau preifateiddio y llywodraeth neu weithio gyda chyllidwyr; neu gall wastraffu adnoddau.  Y peth synhwyrol yw peidio â chydweithredu ond pan fydd yn ychwanegu gwerth ac i wneud hynny rhaid mabwysiadu ymagwedd bwrpasol er mwyn asesu’r gwerth a’r effaith.  Bydd dulliau o rannu heb uno yn cael eu hystyried yn ogystal ag amlinell o broses diwydrwydd dyladwy.  (Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i rannu llwyddiannau ac edrych ar fethiannau a sut i reoli risg; yn creu syniadau ar gyfer eich sefydliad a’i brif randdeiliaid).

Caffael                       12 hanner dydd a 2.45pm                        Ystafell 3

O Grantiau i Gontractau – Amcan a orchuddir gan lenni!

Er bod pob un o’r llenni hyn yn dryloyw pan fônt yn gorwedd un ar ben y llall gallant guddio’r amcan.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae CAVS a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau bach a mawr yn y trydydd sector i geisio egluro beth i’w gynnwys mewn cynnig llwyddiannus a chynaliadwy am waith.

Dewch i’n gweithdy lle bydd arbenigwyr caffael ar gael o bob cwr o’r rhanbarth i roi goleuni i chi!

 

BIG – Cyflwyniad ar y Rhaglen Gyllido Bresennol

12 hanner dydd a 2.45pm                Ystafell 1

Y Gronfa Loteri Fawr sy’n gyfrifol am ddosbarthu hanner yr arian a godir at achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Hyd yma rydym wedi buddsoddi mwy na £600 miliwn mewn prosiectau sy’n amrywio o brosiectau cymunedol cymdeithasol bach i gynlluniau Iechyd Meddwl ledled Cymru.  Ein cenhadaeth yw dod â gwelliannau go iawn i gymunedau a bywydau’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen.  Bydd gwybodaeth ar gael yn ein gweithdy am raglenni sy’n agored ar hyn o bryd a rhaglenni’r dyfodol a sut i wneud cais.

Cymunedau sy’n Cydweithio

12 hanner dydd a 2.45pm                Ystafelloedd 5/6/7

'O Ofyn i Ennill'

Tuag at Gynaliadwyedd Ariannol; symud o fod yn ddibynnol ar grantiau i fasnachu.
Lluniwyd y gweithdy ymarferol hwn ar gyfer sefydliadau’r Trydydd Sector. Bydd yn rhoi cyfle i

  • Amlygu’r materion sydd ynghlwm wrth ddechrau masnachu, megis cydbwyso dibenion cymdeithasol a dibenion busnes, cynllunio hyfywedd busnes, y gallu i fasnachu, systemau adolygu a diwylliant cyfundrefnol
  • Sut i asesu eich syniadau ar gyfer masnachu fel menter gymdeithasol.

Yn cael ei gyflenwi gan swyddogion prosiectau Cymunedau sy’n Cydweithio, mae’r gweithdy yn gyfle i lunio cysylltiadau a dod i wybod am y cymorth sydd ar gael.

‘Manteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad cymdeithasol

12 hanner dydd a 2.45pm                Ystafelloedd 5/6/7

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o wahanol ffynonellau all sicrhau buddsoddiad mewn gweithgareddau sydd â budd cymdeithasol iddynt ac yn edrych ar yr hyn y dylai sefydliadau ei ystyried a sut y dylent baratoi cyn gwneud cais am fenthyciad ariannol. Cyflenwir y gweithdy gan swyddogion datblygu Cymunedau sy’n Cydweithio.

 Busnesau a’r Trydydd Sector

2.45pm          Y Babell Fawr

Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau gyda’r sector preifat, gan dynnu ar brofiad Rhoi Sir Gâr a phartneriaethau rhwng y sector gwirfoddol a busnesau o bob cwr o’r DU.

Sefydlwyd Rhoi Sir Gâr gan CAVS drwy Sialens Gorfforaethol Llywodraeth y Cynulliad ac mae wedi canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau gyda busnesau lleol yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys rhoi drwy’r gyflogres a phrosiect cyfnewid sgiliau.  Mae Rhoi Sir Gâr wedi sefydlu rhaglen o grantiau bach ar gyfer elusennau lleol ar sail yr incwm y mae’n ei dderbyn.

Caiff y rhai sy’n bresennol hefyd esiamplau eraill o’r arfer llwyddiannus o ymgysylltu â busnesau  Cadeirir y gweithdy gan Peter Davies, Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy Cymru.