Y Prif Siaradwyr
Tyrone O ’Sullivan
Tyrone O’Sullivan oedd Ysgrifennydd Cangen Undeb Cenedlaethol y Glowyr yng Nglofa'r Twr am dros 20 mlynedd, ac ef oedd arweinydd y gweithwyr a wnaeth brynu'r lofa honno yn 1995 yn dilyn penderfyniad Glo Prydain i gau'r pwll. Roedd angen £2 filiwn i brynu'r lofa, a chodwyd y swm pan fu i bob un o'r 239 o lowyr oedd yn weddill fuddsoddi ei dâl diswyddo o £8,000 yn y fenter.
Fe wnaeth Glofa'r
Twr barhau i wneud elw am dair blynedd ar ddeg ar ôl
hynny, gan roi swyddi roedd angen dirfawr amdanynt i bobl yr ardal.
Bu i'r lofa gau'n ddiweddar, oherwydd roedd yr holl lo o'r gwythiennau
wedi
cael ei gloddio.
Rhoddwyd yr OBE i Tyrone O' Sullivan yn 1996.
Andrew Davies AC
Andrew Davies yw'r Aelod Cynulliad dros etholaeth Gorllewin Abertawe a'r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fe'i hetholwyd i'r Cynulliad yn 1999, ac yn ogystal ag arfer bod yn Weinidog dros Fenter, Arloesi, a Rhwydweithiau, roedd hefyd yn e-Weinidog, pan oedd yn gyfrifol am gydgysylltu polisi Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'n gyn-aelod o Bwyllgor Gwaith Plaid Lafur Cymru, ac roedd yn swyddog rhanbarthol gyda Phlaid Lafur Cymru yn yr 1980au. Mae'n aelod o Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol.
John Pepin

Dros y 15 mlynedd diwethaf mae John Pepin (Cyfarwyddwr JPA Europe Limited) wedi bod yn Brif Weithredwr ar amryw o elusennau ers dros 15 mlynedd; yn ymgynghorydd ym maes datblygiad a thwf mentrau masnachu/mentrau cymdeithasol; cynhyrchu incwm, cydweithio a chynghreiriau strategol, llywodraethu, rheoli newid a gwerthu. Bu hefyd yn hwyluswr, yn hyfforddwr, yn aelod o fwrdd ymddiriedolaeth ac yn gadeirydd bwrdd. Hefyd, mae'n awdur erthyglau ynghylch mentrau cymdeithasol a dyngarwch mentro; ymchwil i gydweithio yn y sector di-elw; a llyfryn yn rhoi arweiniad ynghylch mentrau masnachol/cymdeithasol.
Peter Davies OBE
Peter Davies yw Is-Gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru. Mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn gorff annibynnol sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar ddatblygu cynaliadwy.
Dechreuodd ar ei yrfa yn y sector addysg fel athro cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Ardal y De i Sefydliad Addysg y CBI. Wedyn cafodd ei benodi gan yr Adran Masnach a Diwydiant i sefydlu’r Gwasanaeth Cenedlaethol Lleoli Athrawon. Cafodd yr OBE fel cydnabyddiaeth am ei waith gyda’r Gwasanaeth.
Hefyd mae Peter yn cydgysylltu gwaith Elusennau’r Tywysog yng Nghymru ac mae’n gadeirydd cangen Gorllewin Cymru o’r Sefydliad Materion Cymreig.
