Arddangoswyr
Cronfa
Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau (ALSF) (http://new.wales.gov.ukhttp://new.wales.gov.uk)
Talu am gostau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chloddio agregau yw nod
y gronfa. Y canlynol yw amcanion y cynllun: hen ganiatadau'n ymwneud â mwynau,
hyrwyddo defnyddio deunyddiau eraill, lleihau effaith chwarela, buddion o ran
yr amgylchedd ac amwynderau i gymunedau a effeithir gan gloddio agregau, gwarchod
a gwella safleoedd o ddiddordeb arbennig, a phrosiectau addysg.
Arts
and Business Cymru (www.aandb.org.uk)
Mae Arts and Business Cymru yn ceisio hyrwyddo, galluogi a chynnal partneriaethau
rhwng byd busnes a'r celfyddydau a fydd o fudd i'r ddau. Mae prif weithgareddau
A&B Cymru yn cynnwys Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol ac Arts @ Work.
Mae'r corff hefyd yn cynnal dau gynllun buddsoddi, REACH ac INVEST, sef rhaglenni
arian parod sy'n gwella prosiectau ac yn gwneud partneriaethau arloesol yn
fwy effeithiol yn y tymor hir. Anogir partneriaethau sy'n mynd i'r afael ag
un neu ragor o'r meysydd canlynol: pobl ifanc, cynhwysiad cymdeithasol, y Gymraeg,
gwasgariad daearyddol a chyfleoedd a datblygiad ar gyfer gweithwyr.
Y
Gronfa Loteri Fawr (www.cronfaloterifawr.org.uk)
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am ddyrannu hanner yr arian a gesglir
gan y Loteri Genedlaethol i’w roi i achosion da, sy'n golygu bod gan
y Gronfa gyllideb o ryw £630 miliwn y flwyddyn. Mae'r Gronfa'n cynnal
nifer o gynlluniau, er mwyn gwella cymunedau a bywyd y bobl sydd fwyaf mewn
angen, ac mae tair thema i bob cynllun: cefnogi dysgu cymunedol a chreu cyfleoedd,
hyrwyddo diogelwch cymunedol a chydlynu, a hybu lles. Ymhlith y cronfeydd a
weithredir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae Arian i Bawb, Pawb a'i Le, a'r Gronfa
Pobl Ifanc.
Ymddiriedolaeth
Cadw Adeiladau (‘Building Preservation Trust’) (www.ahfund.org.uk/advice_bpt.html)
Elusen yw ymddiriedolaeth cadw adeiladau ac mae ei brif amcanion yn cynnwys
cadw ac adfer adeiladau hanesyddol. Mae'r mwyafrif â'u gwreiddiau'n gadarn
yn eu cymunedau lleol. Mae rhai'n berthnasol i drefi unigol, dinasoedd neu
siroedd cyfan; mae eraill yn arbenigo mewn mathau arbennig o adeiladau ac mae
ambell un yn ymdrin â'r Deyrnas Unedig i gyd.
