Arddangoswyr

UnLtd (www.unltd.org.uk)
Mae UnLtd yn cynorthwyo mentrwyr cymdeithasol – pobl sydd â gweledigaeth ac sy'n benderfynol, yn llawn ymroddiad a brwdfrydedd, sy'n dymuno newid y byd er gwell. Gwna hyn drwy ddarparu pecyn cyflawn o gyllid a chymorth ymarferol sy'n bwrpasol i ddiwallu anghenion ymgeiswyr llwyddiannus, a all gynnwys cyfleoedd rhwydweithio a mynediad at hyfforddiant.

Canolfan Cydweithredol Cymru (www.walescoop.com)
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cefnogi datblygu cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol yng Nghymru ac yn ogystal, mae'n mynd i'r afael ag eithrio cymdeithasol ac yn dod ag unigolion sy'n economaidd anweithgar yn ôl i fyd gwaith. Mae ymgynghorwyr busnes y Ganolfan yn gweithio ar draws Cymru, gan alluogi unigolion a chymunedau i gymryd yr awenau o ran eu dyfodol a sefydlu busnesau sydd ag amcanion cymdeithasol ac egwyddorol, yn ogystal ag amcanion economaidd cadarn.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA/CGGC) (www.cggc.org.uk)
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA/CGGC) yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli, cynorthwyo ac ymgyrchu dros gyrff gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau. Nod CGGC yw atgyfnerthu gweithredu gwirfoddol a chymunedol sydd wrth galon cymdeithas sifil yng Nghymru ac sy'n gwneud y canlynol: cynnwys pawb a chynnig cyfleoedd cyfartal, rhoi grym i bobl gymryd rhan, meithrin arweiniad cymunedol, annog a hyrwyddo annibyniaeth o ran gweithredu gwirfoddol, dathlu ac adlewyrchu amrywioldeb a dewis ieithyddol a diwylliannol, a bod yn rhan o bartneriaethau â sectorau eraill ar sail "pwy yw'r gorau am wneud beth’.

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (www.wefo.wales.gov.uk)
Gofalu bod Cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon yng Nghymru yw nod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (SCEC). Mae SCEC, sy'n rhan o Adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n ymdrin â'r Economi a Thrafnidiaeth, yn gyfrifol am weinyddu Rhaglenni 2007–2013 y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru, a chwblhau rhaglenni 2000–2006.


  <<<Tudalen Blaenorol
 Tudalen 6