Arddangoswyr
Cronfa
Dreftadaeth y Loteri (www.hlf.org.uk/Welsh)
Sefydlwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri gan y Senedd ym 1994 i roi grantiau
i ystod eang o brosiectau a oedd yn ymwneud â threftadaeth leol,
ranbarthol a chenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gronfa'n cynorthwyo’r
ystod lawn o elfennau treftadaeth gan gynnwys adeiladau, treftadaeth
byd natur, amgueddfeydd a threftadaeth traddodiadau diwylliannol ac iaith.
Mae'r gronfa'n cynorthwyo grwpiau sydd â phrosiectau sy'n annog
rhagor o bobl i fod yn rhan o benderfynu ar faterion sy'n ymwneud â'u
treftadaeth, sy'n gwarchod a gwella treftadaeth amryfal y Deyrnas Unedig,
ac sy'n gofalu bod pawb yn gallu dysgu am eu treftadaeth, cael cyfle
i’w phrofi a'i mwynhau.
Sefydliad
Codi Arian Cymru (www.institute-of-fundraising.org.uk)
The Institute of Fundraising yw'r corff proffesiynol sy'n cynrychioli'r
rhai sy'n codi arian yn y Deyrnas Unedig. Cynorthwyo'r rhai sy'n codi arian
yw ei nod, a hynny drwy arwain, cynrychioli, pennu safonau, ac addysg,
i ofalu y codir arian yn rhagorol.
Sefydliad
Lloyds TSB (www.lloydstsbfoundations.org.uk)
Nod y Sefydliad yw cynorthwyo a gweithio mewn partneriaeth â chyrff
elusennol cydnabyddedig sy'n helpu pobl ddifreintiedig i chwarae fwy o
ran mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr. Mae Sefydliad Lloyds TSB i Gymru
a Lloegr yn un o'r prif ymddiriedolaethau elusennol sy'n rhoi grantiau
ac sy'n gweithredu'n annibynnol yn y Deyrnas Unedig – mae'n ariannu
miloedd o elusennau bob blwyddyn gan weithio i fynd i'r afael â materion
yn ymwneud ag anfantais ac yn y pum mlynedd diwethaf, rhoddodd grantiau
o fwy nag £115 miliwn.
Cyngor Chwaraeon Cymru (www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk)
Cyngor Chwaraeon Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu
a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd o fyw egnïol. Y Cyngor yw'r prif gorff
sy'n cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar faterion yn ymwneud â chwaraeon
ac mae'n gyfrifol am ddyrannu cyllid gan y Loteri Genedlaethol i fyd
chwaraeon yng Nghymru. Y canlynol yw themâu gwaith y Cyngor: pobl
ieuainc egnïol, cymunedau egnïol - datblygu pobl a lleoedd,
a datblygu perfformiad a rhagoriaeth.
