Arddangoswyr
Y
Bwrdd Safonau Codi Arian (‘Fundraising Standards Board’) (www.frsb.org.uk/cymru)
Mae'r Bwrdd Safonau Codi Arian yn ymdrin â chwynion ynghylch
y modd y mae eu haelodau'n codi arian ac yn ogystal, mae'n cynnig 'nod
tawelwch meddwl' i'r cyhoedd gadw llygad amdano wrth roi i elusennau
yn y dyfodol.
Mae bron i 800 elusen, gan gynnwys rhai o'r elusennau mwyaf yn y Deyrnas
Unedig, eisoes wedi ymaelodi â'r cynllun. Gwirfoddolir i ymaelodi
ag ef, a thrwy wneud hynny, maent yn cytuno i gadw at gyfres o godau
caeth ac arddel Addewid Codi Arian sy'n golygu eu bod yn ymrwymo i drin
y cyhoedd â pharch a thegwch, gan fod yn onest ac yn glir yn eu
holl weithgareddau codi arian.
Genesis
Cymru (www.genesiscymru.co.uk)
Prosiect yw Genesis Cymru i helpu unigolion i oresgyn nifer o'r rhwystrau
y maent yn eu hwynebu pan fyddant yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd
i'r gwaith. Mae'r prosiect yn galluogi rhieni economaidd anweithgar nad
yw'n hawdd eu cyrraedd i gael mynediad at gyfleoedd dysgu, hyfforddiant
a gwaith drwy ddarparu cyfarwyddyd, a gofal plant yn rhad ac am ddim.
Cymru'n
Rhoi (http://www.wcva.org.uk/info/dsp_giving_resource.cfm?0=0&display_sitetextid=2002&sub=3&lang=cy)
Mae cynllun rhoi trwy'r gyflogres, 'Payroll Giving Wales' yn bartneriaeth
rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a South West Charitable Giving
(SWCG). Mae'r cynllun rhad ac am ddim yn caniatáu i weithwyr roi
cyfraniadau cyson, sy'n effeithiol o ran treth, i unrhyw elusen o'u dewis
drwy gyflogres eu sefydliad.
Grantnet (www.grantnet.com)
Mae GRANTnet yn wefan y gellir ei defnyddio'n rhad ac am ddim i chwilio
am gyllid ac fe'i darperir gan y gronfa ddata grantiau, GRANTfinder.
Mae'r safle'n cynnwys cronfa ddata ac ynddi'r wybodaeth ddiweddaraf am
grantiau, benthyciadau a mentrau eraill a weithredir yn y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae ynddi fanylion am fwy na 4,000 o fentrau, gan gynnwys
grantiau gan y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, llywodraeth
leol, a noddwyr corfforaethol ac ymddiriedolaethau elusennol.
