Arddangoswyr
Comic
Relief (www.comicrelief.com)
Byd cyfiawn heb dlodi – dyna weledigaeth Comic Relief. Gwna Comic
Relief hyn drwy godi ymwybyddiaeth ac arian, gan ddyrannu'r arian a roddir
gan y cyhoedd i brosiectau elusennol ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhai
o wledydd tlotaf y byd, yn arbennig yn Affrica. Yn y Deyrnas Unedig,
mae Comic Relief yn cynnig grantiau o dan chwe rhaglen: Pobl Ifanc, Pobl
Hyn, Iechyd Meddwl, Trais Domestig, Cymunedau Difreintiedig a Ffoaduriaid
a Cheiswyr Lloches.
Rhaglen
Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/grants/cfap/?lang=cy)
Cynllun grantiau cyfalaf a weithredir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
yw'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP) i helpu cyrff
cymunedol
a gwirfoddol i ddarparu cyfleusterau neu eu gwella, neu i ymgymryd â gweithgareddau
a fydd o hwb i adfywio cymunedau.
Co-operative
and Community Finance (www.icof.co.uk)
Mae Co-operative & Community Finance wedi bod yn cynnig benthyciadau
ers 30 mlynedd i gwmnïau cydweithredol, busnesau a berchenogir gan
y gweithwyr eu hunain a mentrau cymdeithasol.
Mae'n codi arian yn bennaf drwy ddyroddi cyfrannau cyhoeddus, ac yn benthyg
yr arian hwnnw at ddibenion cymdeithasol ac er budd pawb. Mae hefyd yn
rheoli benthyciadau ar gyfer amryw o gyrff eraill sy’n cynnig cyllid
cymunedol a chydweithredol.
Amgylchedd Cymru (www.environment-wales.org)
Mae Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth o gyrff yn y sector gwirfoddol ac
fe'i cyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy
yw ei nod a hynny drwy gefnogi ac annog gweithredu gwirfoddol i ddiogelu'r
amgylchedd a'i wella.
Cyllid Cymru (www.financewales.co.uk)
Mae Cyllid Cymru yn cynnig cyllid i fusnesau bach a chanolig eu maint ledled
Cymru gan eu galluogi i wireddu eu potensial o ran arloesi a thyfu. Mae'n
buddsoddi mewn busnesau newydd a Busnesau Bach a Chanolig eu Maint sydd
wedi hen ennill eu plwyf. Mae Cyllid Cymru, sy'n cyllido twf busnesau,
yn gweithredu'n hyblyg ond gan hoelio'i sylw'n benodol ac mae'n ymwneud â nifer
cynyddol o gytundebau busnes syndicetiedig a chyd-fuddsoddi. Gall drefnu
cymorth buddsoddi boed hynny'n fenthyciad o £5,000 neu filiwn o
bunnoedd, yn ogystal â chytundebau ecwiti.
