Arddangoswyr
Llygad Busnes (www.llygadbusnes.org.uk)
Mae Llygad Busnes yn wasanaeth gwybodaeth diduedd, a rhad ac am ddim
i Gymru ac fe'i crëwyd i ganfod atebion i'ch cwestiynau chi am
fusnes. Gall Llygad Busnes gynorthwyo cwmnïau sydd wedi ymsefydlu,
y rhai sydd â syniadau newydd, unig fasnachwyr neu rai sy'n cyflogi
nifer mawr o weithwyr a gall roi manylion cysylltu i chi ar gyfer cael
cymorth gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Chwarae
Teg (www.chwaraeteg.com)
Chwarae Teg yw'r brif asiantaeth datblygu economaidd i fenywod yng Nghymru.
Mae Chwarae Teg yn cefnogi, yn datblygu ac yn ehangu'r rhan mae menywod
yn ei chwarae yn economi Cymru. Mae'n credu mai dim ond pan fydd pob unigolyn
yn cael yr un cyfle i gyfrannu y bydd economi Cymru yn gwireddu ei lwyr
botensial. Mae menywod yn chwarae mwy o ran yn yr economi nag erioed o'r
blaen, ond maent yn dal i wynebu rhwystrau ym meysydd addysg, cyflogaeth
a mentergarwch sy'n atal nifer ohonynt rhag datblygu eu sgiliau a'u gyrfaoedd.
Rheolydd
y Cwmnïau Buddiant Cymunedol (www.cicregulator.gov.uk)
Mae Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn fath newydd o gwmni cyfyngedig a
gynlluniwyd i weithredu er budd y gymuned yn hytrach nag er budd perchenogion
y cwmni dan sylw. Ni sefydlir Cwmnïau Buddiant Cymunedol er budd personol
unigolyn, na grwp o bobl.
Coalfields Regeneration Trust (www.coalfields-regen.org.uk)
The Coalfield Regeneration Trust is dedicated to improving the quality
of life for people in Britain’s coalfield communities. Its aim
is to make coalfields sustainable and to work towards the point where
they can be prosperous, viable and cohesive without support. It provides
grants across Britain’s coalfield areas through two schemes: ‘Bridging
the Gap’ – for grants up to £10,000 and its ‘Main
Grants’ programme which offers grants of up to £100,000.
